Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 6 Chwefror 2024
Amser:
09.00 -
09.20
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan Lesley Griffiths AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ddiwylliant a gwerthoedd - y camau nesaf (45 munud)
·
Gwasanaethau Preswyl Ysgolion
Arbennig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024
(5 munud) Gohiriwyd
· Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
· Dadl: Y diwydiant dur yng Nghymru (60 munud)
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.20pm
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 20 Chwefror 2024
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed (45 munud)
Dydd Mawrth 5 Mawrth 2024
Pwyllgor o’r Senedd Gyfan
Gan fod y Pwyllgor o’r Senedd Gyfan yn cael ei gynnal ar 6 Mawrth, cytunodd y Pwyllgor i beidio â threfnu unrhyw ddadleuon y diwrnod hwnnw.
Dydd Mawrth 6 Mawrth 2024 –
Pwyllgor o’r Senedd Gyfan
Bu'r Pwyllgor Busnes yn ystyried papur ynghylch yr amserlenni ar gyfer Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). Cytunodd y Pwyllgor i ohirio penderfyniad ar adolygu’r amserlenni ar gyfer y Biliau er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ac i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Gofynnodd y Pwyllgor Busnes hefyd am nodyn ar y trefniadau ar gyfer penodi Cwnsler Cyffredinol unwaith y byddai deiliad presennol y swydd yn peidio â dal ei swydd, yn unol â Rheol Sefydlog 9.8, os enwebir Aelod i’w benodi’n Brif Weinidog Cymru. Byddai’r nodyn hefyd yn ymdrin â chylch gorchwyl a chyfrifoldebau’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad presennol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud yr hyn a ganlyn: